Derek Conway | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1953 Newcastle upon Tyne |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Vice-Chamberlain of the Household, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Plant | Henry Conway |
Gwleidydd Seisnig a chyn-Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Hen Bexley a Sidcup ydy Derek Leslie Conway TD (ganed 15 Chwefror 1953). Bu'n destun dadl ym mis Ionawr 2008, pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi cyflogi ei fab a oedd yn fyfyriwr llawn-amser ym Mhrifysgol Newcastle, fel ymchwilydd gwleidyddol gydag arian cyhoeddus yn ei dalu. Fodd bynnag, dywedodd pwyllgor safonau Tŷ'r Cyffredin nad oedd unrhyw gofnod i'w fab wneud unrhyw waith yn San Steffan.[1] Ar 29 Ionawr, cymrodd David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol y chwip wrth Conway, ac o wneud hynny ei wahardd o grŵp Seneddol y Ceidwadwyr.
Ar 30 Ionawr 2008 cyhoeddodd Conway na fyddai'n sefyll fel AS ar gyfer Hen Bexley a Sidcup, yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Nid yw wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo, er iddo gael ei feirniadu cryn dipyn gan y wasg am gamddefnyddio arian.[2] Ar hyn o bryd caiff ei gyflogi fel cyflwynydd Epilogue (cyfres deledu), rhaglen adolygu llyfrau ar Press TV, sianel deledu Saesneg rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Iran.[3]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Yr Amwythig ac Atcham 1983 – 1997 |
Olynydd: Paul Marsden |
Rhagflaenydd: Edward Heath |
Aelod Seneddol dros Hen Bexley a Sidcup 2001 – 2010 |
Olynydd: James Brokenshire |